Hafan Gobaith

3 views

Lyrics

Pan fyddo'r ystorom
 Yn bygwth gwae uwch dy ben,
 A therfysg diwedd dydd
 Sydd yn rhwygo erwau'r nen,
 Pan fyddo'r cysgodion
 Yn taenu ias dros y tir,
 A mantell ofnau'r nos
 Sydd yn gaddug blin o gur.
 Yma fe gei ysbaid,
 Noddfa i'th enaid,
 Cei yma orffwys
 Yn hafan gobaith hyd y wawr.
 Pan fyddo dy lwybr
 Mor faith a thithau'n llesgáu
 A chopa'r bryn ymhell,
 Gorwel nad yw'n agosáu.
 Pan fyddo dy ysbryd
 Ar fin diffygio'n llwyr,
 A baich unigedd byd
 Sydd yn drech ym min yr hwyr.
 Yma fe gei ysbaid,
 Noddfa i'th enaid,
 Cei yma orffwys
 Yn hafan gobaith hyd y wawr.
 I'r sawl sy'n myned drwy ei ddôr,
 Cynhaliaeth gref a ddaw.
 Ffydd, gobaith a chariad Iôr
 Yw'r heulwen wedi'r glaw.
 Yma fe gei ysbaid,
 Noddfa i'th enaid,
 Cei yma orffwys
 Yn hafan gobaith hyd y wawr.
 Yma fe gei ysbaid,
 Noddfa i'th enaid,
 Cei yma orffwys
 Yn hafan gobaith hyd y wawr,
 Yn hafan gobaith hyd y wawr.
 

Audio Features

Song Details

Duration
03:46
Key
11
Tempo
98 BPM

Share

More Songs by Bryn Terfel

Similar Songs